National Assembly for Wales / Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Health and Social Care Committee / Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol

 

Safe Nurse Staffing Levels (Wales) Bill/ Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

Evidence from Healthcare Inspectorate Wales – SNSL(Org) 21 / Tystiolaeth gan Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru – SNSL(Org) 21

 

Ymateb i ymgynghoriad ar y Bil Lefelau Diogel Staff Nyrsio (Cymru)

 

Ynglŷn ag Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru

Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yw'r arolygiaeth a rheoleiddiwr annibynnol ar gyfer gofal iechyd yng Nghymru.

Mae AGIC yn canolbwyntio’n bennaf ar y canlynol:

·             Gwneud cyfraniad at y gwaith o wella diogelwch ac ansawdd gwasanaethau gofal iechyd yng Nghymru

·             Gwella profiad dinasyddion o ofal iechyd yng Nghymru boed hynny fel claf, defnyddiwr gwasanaeth, gofalwr, perthynas neu gyflogai

·             Atgyfnerthu llais cleifion a'r cyhoedd yn y modd y caiff gwasanaethau iechyd eu hadolygu

·             Sicrhau bod gwybodaeth amserol, ddefnyddiol, hygyrch a pherthnasol am ddiogelwch ac ansawdd gofal iechyd yng Nghymru ar gael i bawb

Ein hymateb:

Cyffredinol

-    Oes angen deddfwriaeth i ddarparu ar gyfer lefelau diogel staff nyrsio?

Mae Arolygiaeth Gofal Iechyd Cymru (AGIC) yn gadarn yn cefnogi amcanion y Bil i:

·      Alluogi bod gofal nyrsio diogel yn cael ei ddarparu i gleifion bob amser

·      Gwella amodau gwaith staff nyrsio a staff arall

·      Cryfhau atebolrwydd ynglŷn â diogelwch, ansawdd ac effeithiolrwydd cynllunio a rheoli'r gweithlu

Mae'r rhan fwyaf o'n canfyddiadau sy'n ymwneud â staffio yn codi o'n harolygiadau urddas a gofal hanfodol a'n harolygiadau iechyd meddwl. Yn ystod y flwyddyn bresennol, rydym wedi cyhoeddi 30 arolygiad urddas a gofal hanfodol. Rydym wedi nodi problemau yn ymwneud â staffio yn hanner yr arolygiadau hyn.

Mae'r problemau a nodwyd wedi tueddu i fod yn ymwneud â phrinder staff, anawsterau wrth recriwtio a chadw, a chyfradd uchel o ddibyniaeth ar staff banc ac asiantaeth. Mewn tair enghraifft, gwnaethom geisio sicrwydd ar unwaith gan y Byrddau Iechyd eu bod yn mynd i'r afael â'r problemau.

Cyhoeddwyd canllawiau ar yr egwyddorion sy'n sail i nyrsio diogel i Fyrddau Iechyd yng Nghymru gan y Prif Swyddog Nyrsio ym mis Ebrill 2012, a chyflwynwyd offeryn aciwtedd ar gyfer wardiau ysbytai acíwt i oedolion ym mis Ebrill 2014.  Mae cynnydd yn digwydd, ond rydym yn dal i ganfod bod gweithredu'n anghyson: nid yw pob ardal ward wedi pennu isafswm ei lefelau staffio diogel lleol, ac nid yw wardiau'n defnyddio offeryn aciwtedd yn rheolaidd i adlewyrchu a chydweddu niferoedd staff ag anghenion cleifion.

Mae’n bosibl y gallai deddfwriaeth yn y maes hwn helpu i roi'r pwyslais a'r ysgogiad angenrheidiol i wneud y canllawiau hyn yn sail i arfer dyddiol.

Rydym yn falch o weld bod y cynigion yn cydnabod ei bod yn bwysig edrych y tu hwnt i gymarebau syml.  Mae staffio diogel yn ddibynnol ar fwy na rhifau: rhaid iddo hefyd adlewyrchu anghenion y cleifion, yr amgylchedd y mae'r gofal yn cael ei ddarparu ynddo, sgiliau a phrofiad yr aelodau staff, a'r gyfran o'r gofal a ddarperir gan staff banc ac asiantaeth sydd, o bosib, â phrofiad cyfyng yn y maes. Rydym felly'n cefnogi'r bwriad i sicrhau bod cymarebau staff gofynnol yn cael eu gweld fel sylfaen ac nid fel targed.

-    Ai'r darpariaethau yn y Bil yw'r ffordd orau i gyflawni bwriad cyffredinol y Bil (a noder yn Adran 1 o'r Bil)?

-      Beth yw'r rhwystrau posib, os oes unrhyw rwystrau, i weithredu darpariaethau'r Bil?  Ydi'r Bil yn talu digon o sylw iddynt?

Mae faint o Nyrsys Cofrestredig sydd ar gael i weithio, a'r gallu i recriwtio, yn debygol o fod yn rhwystr.  Bydd angen i'r Bil gael cefnogaeth gan gynllunio gweithlu effeithiol a darpariaeth addysg i sicrhau bod digon o nyrsys hyfforddedig a phrofiadol ar gael i gwrdd â'r anghenion dynodedig.

Mae'n iawn cydnabod nad yw pennu lefelau staffio priodol yn syml ac na ellir ei wneud trwy ddefnyddio fformiwla syml.  Fodd bynnag, bydd yr angen i gydbwyso barn broffesiynol, a natur y galw sy'n newid yn gyson, yn ei gwneud yn anodd i'r canllawiau fod yn benodol. Bydd hyn yn ei dro'n gwneud cyfathrebu'n eglur â chleifion ynghylch sut mae'r staffio'n cwrdd â'r canllawiau yn heriol.  Bydd hefyd yn gwneud dal cyrff iechyd yn atebol am gyflenwi mewn perthynas â'r ddeddfwriaeth yn fwy heriol.

Mae'r amgylchedd ariannol presennol y mae Byrddau Iechyd yn ei wynebu'n debygol o achosi her iddynt wrth gwrdd â lefelau staffio diogel bob amser.

-      Oes yna unrhyw ganlyniadau anfwriadol yn codi o'r Bil?

Mae'n bosib, yn y tymor byrrach o leiaf, y byddai ymdrechion i gynnal niferoedd staff yn cynyddu cyfradd y staff banc ac asiantaeth yn sylweddol.  Gall hyn gael effaith ar gysondeb ac ansawdd y gofal.

Mae'n bosibl y gall Byrddau Iechyd symud adnoddau o ardaloedd heb ganllawiau statudol er mwyn cwrdd â gofynion y canllawiau mewn  wardiau acíwt i oedolion.  Er enghraifft, rydym eisoes wedi nodi problemau staffio mewn arolygiadau Iechyd Meddwl y GIG ac wedi tynnu sylw at y rhain ym mhob adroddiad ar yr arolygiadau hyn sydd wedi cael ei gyhoeddi hyd yma.

Darpariaethau yn y Bil

Mae gan y Pwyllgor ddiddordeb yn eich barn ar y darpariaethau unigol yn y Bil ac a ydynt yn cyflenwi eu dibenion a nodwyd.  Er enghraifft, beth yw eich barn chi am:

-    y ddyletswydd ar gyrff gwasanaethau iechyd i ystyried pwysigrwydd sicrhau lefel briodol o staff nyrsio ble bynnag y darperir gofal nyrsio’r GIG?

Ceir diffyg eglurder ynghylch y cwmpas a fwriadwyd ar gyfer y ddarpariaeth hon. Byddai o gymorth i sefydlu a yw'r ddarpariaeth wedi ei bwriadu i gynnwys gofal wedi ei gomisiynu gan ddarparwyr mewn gweinyddiaethau eraill fel Lloegr neu wedi ei gomisiynu gan, neu ei ddarparu o fewn, lleoliad gofal annibynnol.

-    y ddyletswydd ar gyrff gwasanaethau iechyd i gymryd pob cam rhesymol i gynnal cymarebau gofynnol rhwng nyrsys cofrestredig a chleifion a chymarebau gofynnol rhwng nyrsys cofrestredig a gweithwyr cymorth gofal iechyd a fydd yn berthnasol i ddechrau mewn wardiau cleifion i oedolion mewn ysbytai acíwt?

-    y ffaith bod y ddyletswydd yn berthnasol, yn y lle cyntaf, i wardiau cleifion i oedolion mewn ysbytai acíwt yn unig?

Rydym hefyd wedi canfod heriau staffio amlwg mewn wardiau iechyd meddwl ac mewn ysbytai cymunedol na fyddent yn cael eu cynnwys yn y canllawiau dechreuol.  Rydym felly'n croesawu'r ddarpariaeth i alluogi darparu canllawiau yn y lleoliadau hyn a lleoliadau eraill.

Fodd bynnag, o ystyried ein sylwadau am gwmpas mewn perthynas â darpariaeth 1(a), byddem yn cwestiynu a yw'r cyfeiriad at "lleoliadau o fewn y GIG" yn rhy gyfyngol ac a fyddai'n fwy priodol i gyfeirio atynt fel "lleoliadau y mae gofal GIG yn cael ei ddarparu ynddynt".

-    y gofyniad bod Llywodraeth Cymru'n cyhoeddi canllawiau mewn perthynas â'r ddyletswydd a nodir yn adran 10A(1)(b) a fewnosodwyd gan adran 2(1) o'r Bil sy'n:

·      Nodi dulliau y dylai sefydliadau’r GIG eu defnyddio i sicrhau lefel briodol o staff nyrsio

·      Cynnwys darpariaeth i sicrhau nad yw'r cymarebau gofynnol yn cael eu defnyddio fel terfyn uchaf

·      Nodi proses ar gyfer cyhoeddi gwybodaeth i gleifion am nifer y staff nyrsio ar ddyletswydd a'u rolau

Rydym yn cefnogi'r angen i fod yn agored a thryloyw wrth gyfathrebu â chleifion.

·      Cynnwys amddiffyniadau o weithgareddau penodol a rolau arbennig pan fydd lefelau staffio'n cael eu pennu

Rydym wedi cynnal tri arolygiad ble mae Prif Nyrs y Ward wedi gorfod ymgymryd â rôl gofal uniongyrchol oherwydd anawsterau staffio ac felly'n cael anhawster i ymgymryd â'i rôl o arwain a chydlynu gofal a chymorth i staff eraill.  Gall hyn arwain at gyfathrebu gwael, diffyg sylw i gynllunio gofal a dogfennau, ac i gynllunio gwan o ran rhyddhau cleifion i fynd adref.  Rydym felly'n croesawu cynnwys amddiffyniad o statws ychwanegol unigolion sy'n darparu swyddogaethau goruchwylio arbenigedd clinigol ac arweinyddiaeth.

Rydym hefyd yn croesawu cydnabod yr angen i roi amser i hyfforddiant. Mae nifer o'n harolygiadau wedi tynnu sylw at hyfforddiant gorfodol anghyflawn.  Rydym hefyd wedi tynnu sylw at enghreifftiau lle nad oedd staff wedi gallu cael eu rhyddhau ar gyfer hyfforddiant neu lle'r oeddent wedi cwblhau hyfforddiant yn eu hamser eu hunain.

-     y gofynion monitro a nodir yn y Bil

-     y gofyniad bod pob corff gwasanaeth iechyd yn cyhoeddi adroddiad blynyddol

Rydym yn croesawu'r gydnabyddiaeth yn y Bil y gellid cynnwys y gofynion uchod o fewn prosesau monitro ac adrodd sy'n bodoli eisoes.  Mae'n bwysig nad yw gofynion y Bil yn gorfodi gorbenion biwrocrataidd ychwanegol a gorfodol ar gyrff iechyd.

Effaith canllawiau presennol

-   Beth yw eich barn ar effeithiolrwydd ac effaith y canllawiau presennol?

Dim ond i wardiau meddygol cyffredinol a llawfeddygol y mae'r canllawiau presennol yn berthnasol.  Maent yn sylfaen defnyddiol, ond nid ydynt yn ddigon ar eu pennau eu hunain, ac mae angen iddynt gael eu defnyddio ochr yn ochr ag offerynnau aciwtedd a barn broffesiynol.  Ar hyn o bryd, mae'r offeryn aciwtedd yn cael ei orfodi dwywaith y flwyddyn. Er y gellid ei ddefnyddio'n amlach, nid ydym yn gweld hyn yn aml yn ystod ein harolygiadau, a gellid annog ei ddefnydd ymhellach.

Pwerau i wneud is-ddeddfwriaeth a chanllawiau

-   Beth yw eich barn ar y cydbwysedd rhwng yr hyn sy'n cael ei gynnwys yn y Bil a'r hyn sy'n cael ei gynnwys mewn is-ddeddfwriaeth a chanllawiau?

Mae'r cydbwysedd a gynigir yn darparu digon o hygyrchedd, yn ôl pob golwg, i'r canllawiau sylweddol gael eu diwygio'n rhwydd yng ngoleuni ymchwil a dealltwriaeth newydd ac mewn ymateb i newidiadau mewn cyflenwi gofal.

 

Goblygiadau ariannol

-    Beth yw eich barn ar oblygiadau ariannol y Bil fel sy'n cael eu nodi yn rhan 2 o'r Memorandwm Esboniadol?

Nid yw AGIC mewn sefyllfa i wneud sylwadau ar oblygiadau ariannol y Bil.